Mae’r teclyn yma yn dangos pob pôl piniwn gwleidyddol o Gymru sydd wedi cael ei gyhoeddi ers 1999 (data wedi ei gopïo o dudalen polau Professor Roger Awan-Scully).
Mae modd newid y cyfnod amser sy’n cael ei ddangos drwy newid y dyddiadau. Mae hefyd modd dewis pa gwestiwn i’w ddangos (Rhanbarth / Etholaeth neu San Steffan). Gallwch hefyd ddewis pa bolwyr i’w dangos. Yn olaf mae modd dewis amlygu (neu beidio) y llinell gymedr. Hwn yw cymedr y tri pôl/etholiad diweddaraf. Mae dangos cymedr yn lle rhoi llinell trwy pob pwynt yn arwain at linellau mwy esmwyth ac y maent yn cael eu effeithio llai gan ganlyniadau eithafol (outliers).
Mae hefyd modd lawrllwytho y data, fel llun neu fel taenlen trwy defnyddio y dewislen hamburger.