Daeth yr ysbrydoliaeth i wneud y darn yma o waith o edrych ar fap cloropleth o lywodraeth leol yng Nghymru wikipedia. Mae lliwio etholaethau i mewn yn gweithio’n rhesymol o dda ar lefel San Steffan / y Cynulliad Cenedlaethol i ddangos ble mae pleidiau yn gryf. Ond pan yn sôn am lefel ward llywodraeth leol, maeny yn gallu bod yn gamarweiniol iawn: mae Blaen Hafren, ward un aelod ym Mhowys, yn cwmpasu 266 km2 o dir, sy’n sylweddol fwy na maint sir gyfan fel Caerdydd (140 km2) er enghraifft.
Edrychais ar opsiynau eraill a phenderfynu y byddai ychwanegu dotiau ymhob ward i gynrychioli pob cynghorydd yn rhoi gwell syniad o sut mae cryfder y pleidiau yn amrywio ar draws y wlad.
Dyma allbwn y dadansoddiad hwnnw. Cliciwch ar y dot i gael manylion y cynghorydd. Mae modd dewis pa bleidiau i’w dangos ar y tro a gallwch hefyd agor y map mewn “sgrin llawn”
O’r olwg gyntaf, mae’n drawiadol fod gan y pleidiau ledaeniad gwahanol iawn o gefnogaeth. Mae Plaid Cymru yn gryf yn y gorllewin ond ma hefyd yn cael cryn gefnogaeth mewn rhai (ond dim llawer) o gymoedd y de. Nid oes gan Lafur unrhyw gynghorwyr o gwbl yng nghanolbarth Cymru ac yn gyffredinol maent yn wan yng ngorllewin Cymru. Mae’r Ceidwadwyr yn wan yng ngorllewin Cymru y tu allan i Sir Benfro. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn weddol gryf yng Nghaerdydd a Phowys ac mae ganddynt bresenoldeb rhesymol yn Abertawe a Cheredigion ond maent yn wan tu allan i’r ardaloedd yma. Mae’r annibynwyr yn rym enfawr ar draws Cymru gyfan.
Yn ogystal ag edrych ar leoliad daearyddol cynghorwyr, gallwn ni hefyd gymharu cynghorwyr drwy rai o nodweddion eu ward. Ar gyfer y darn hwn, rwyf wedi dewis tair nodwedd. 1. Canran y siaradwyr Cymraeg mewn ward (cyfrifiad 2011) 2. Pris canolrifol tŷ mewn ward (Medi 2016 hyd fis Medi 2017) 3. Canran y dynodwyr Cymreig mewn ward (cyfrifiad 2011)
Mae pob un o’r graffiau isod yn plotio’r gwerthoedd hyn yn erbyn ei gilydd. (Gallwch ddewis/dad-ddewis y pleidiau o’r rhestr islaw pob graff a gallwch hofran dros y pwyntiau i gael manylion y cynghorydd)
Os ydych yn cymharu y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr rydych chi’n gweld bod prisiau tai yn y wardiau Ceidwadol yn tueddu i fod yn llawer uwch. Ychwanegwch Plaid Cymru i’r graff a sylwch fod wardiau â mwy o siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gael cynghorwyr Plaid Cymru.
Mae’n amlwg bod canran llai o bobl yn dynodi fel Cymry mewn wardiau sy’n cael eu cynrychioli gan y Ceidwadwyr.
Mae’r plot olaf hwn yn dangos yn glir bod wardiau Plaid Cymru yn dueddol o gael canran uchel o siaradwyr Cymraeg neu ganran uchel o ddynodwyr Cymreig.
Ar un lefel nid yw’r dadansoddiad hwn yn ddim byd newydd, mae’r Blaid yn gryf lle mae pobl yn siarad Cymraeg neu’n nodi fel Cymraeg. Mae Llafur yn gryf mewn ardaloedd lle mae nifer uchel yn dynodu yn Gymraeg ac mewn ardaloedd tlotach. Mae’r Ceidwadwyr yn gryf lle mae pobl yn fwy cyfoethog. Dim rhyfeddodau mawr!
Fodd bynnag, un o elfennau diddorol y dadansoddiad hwn yw ei fod hefyd yn ein galluogi i adnabod cynghorwyr sydd wedi eu hethol mewn wardiau sydd ddim yn nodweddiadol ar gyfer eu plaid. Sion Jones (Bethel, Gwynedd) yw’r unig gynghorydd Llafur mewn ward sydd a dros 70% o siaradwyr Cymraeg. Mewn gwirionedd, dim ond llond llaw o gynghorwyr Llafur sydd mewn wardiau lle mae mwy na 50% yn siarad Cymraeg. Beth mae’r cynghorwyr hyn yn ei wneud nad yw eraill yn ei gyflawni?
Yn yr un modd, mae Plaid Cymru wedi ennill Menai-Bangor (Gwynedd) a Gogledd Aberystwyth (Ceredigion) er gwaethaf y canrannau isel iawn y siaradwyr Cymraeg a dynodwyr Cymreig yn y wardiau: beth all y cynghorwyr hyn (Catrin Wager, Mair Rowlands a Mark Strong) a’r timau a’u helpon nhw, ddysgu eu plaid?
Ac i’r Ceidwadwyr, oes unrhywbeth allant ddysgu o lwyddiannau mewn ardaloedd mwy difreintiedig megis Dwyrain y Rhyl (Tony Thomas) a De Ddwyrain y Rhyl (Brian Jones) ac ardaloedd Cymreig fel Mawr (Brigitte Rowlands) a Ton-Teg (Lewis Hooper).
Efallai fod y canlyniadau yma’n bodoli oherwydd amgylchiadau lleol iawn, ymgeiswyr adnabyddus neu ymgyrchoedd gwael gan bleidiau eraill. Ond mae hi hefyd yn bosib fod gan y cynghorwyr hyn negeseuon pwysig ynglŷn â sut y gall eu pleidiau apelio at bleidleiswyr newydd a gwahanol.